Manylion y digwyddiad

Mae gemwaith arian Abi, sydd wedi’i wneud â llaw, yn adrodd stori am fyd natur Sir Benfro a’r cysylltiad rhwng yr awyr, y ddaear a’r môr. Wedi’i ysbrydoli gan fflora gwyllt lleol, pryfed a’r dirwedd, mae Abi yn defnyddio darganfyddiadau naturiol wedi’u fforio i weadu’r gwaith arian gan gynhyrchu gweithiau celf cywrain.