Manylion y digwyddiad

O’r arfordir garw i’r lonydd cefn gwlad troellog, mae Serameg Mena yn cynhyrchu crochenwaith a serameg sy’n adlewyrchu tymhorau a thirweddau sy’n newid yn barhaus yn Sir Benfro. Mae Mena yn creu gwaith clai sy’n cynnwys cregyn, blodau, sêr fôr, gwymon a rhaff sydd wedi cael ei chwilota. Mae pob darn o’i chasgliad yn cysylltu â’i hamgylchoedd arfordirol.