Manylion y digwyddiad

https://www.facebook.com/events/626357265251515
Saith mlynedd yn ôl, cychwynnodd Jack Lowe ar brosiect uchelgeisiol i dynnu lluniau o bob un o’r 238 o orsafoedd bad achub yn y DU ac Iwerddon. Wrth wneud y ffotograffau ar wydr, gan ddefnyddio proses Fictoraidd draddodiadol a elwir yn Wet Plate Collodion – gydag ambiwlans wedi’i ddadgomisiynu o’r enw Neena fel ystafell dywyll symudol – mae Jack yn creu archif unigryw.
Ymunwch â ni yn Oriel Glan yr Afon, Hwlffordd, neu dros Zoom wrth iddo siarad am waith parhaus ei fywyd – Prosiect Gorsaf y Bad Achub – a mwy.
Digwyddiad ar y cyd ag Oriel Glan yr Afon, Hwlffordd, lle mae dau o ffotograffau Jack Lowe yn cael eu harddangos ar hyn o bryd.
**Digwyddiad Saesneg**
Tocynnau: digwyddiadau.llyfrgell.cymru