Manylion y digwyddiad

Ymunwch â’r artist lleol Kate Freeman am weithdy lluniadu arbrofol sy’n addas ar gyfer dechreuwyr pur yn ogystal ag artistiaid sy’n dymuno peintio mewn ffordd fwy rhydd a digymell.

Bydd y gweithdy’n defnyddio amgylchedd naturiol Oriel y Parc fel testun a man cychwyn wrth i chi archwilio gwneud llinellau a marciau drwy ddefnyddio cymysgedd o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu a’u darganfod, gydag inciau botanegol. Bydd y gweithdy yn grŵp bach o hyd at 10 o bobl, a bydd mynychwyr yn cael gostyngiad o 10% ar ddiodydd poeth a chacen yng Nghaffi Pilgrim’s.

Archebu yn hanfodol. I archebu cliciwch yma.