Taith y ‘Masterpiece Tour’, The National Gallery yn Oriel Glan-yr-afon, Hwlffordd

Mae Llyfrgell, Oriel a Chanolfan Gwybodaeth Ymwelwyr Glan-yr-afon, Hwlffordd yn croesawu arddangosfa arbennig iawn, diolch i Masterpiece Tour, The National Gallery, wedi ei noddi gan Christie’s.

Bydd Hélène Rouart in her Father’s Study gan Edgar Degas yn ganolbwynt i arddangosfa sydd wedi ei dwyn ynghyd o’r Casgliad Portreadau Cenedlaethol a gedwir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac a fydd yn cael ei chynnal yn Oriel Glan-yr-afon, Hwlffordd. Bydd yr arddangosfa yn gosod y paentiad yn ei gyd-destun trwy archwilio’r ffurf fenywaidd mewn gweithiau celf ac yn dadansoddi theori y ‘trem gwrywaidd’ mewn portreadau a hynny trwy lygad artistiaid benywaidd a gwrywaidd, megis Seren Morgan Jones a Syr Kyffin Williams. 

Bydd yr arddangosfa yn ymestyn o 14 Mai hyd 3 Medi 2022 a bydd yn cyd-fynd â’r arddangosfa bresennol, Sir Benfro: Ddoe a Heddiw.

Meddai Mike Cavanagh, Pennaeth Gwasanaethau Diwyllianol, Hamdden, Twristiaeth a Chofrestru Cyngor Sir Benfro:

“Rydym wrth ein bodd ein bod yn cael cyfle, o’r diwedd, i fod yn rhan o’r ‘Masterpiece Tour’ wedi i’r pandemig ein gorfodi i ohirio’n cynlluniau. Bydd dyfodiad y Degas yn creu argraff fawr ar y gymuned a’r ymwelwyr niferus sy’n dod i’r sir gan ysbrydoli, addysgu a sbarduno uchelgais o fewn y sir.”

Ychwanegodd Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

“Mae’n hyfryd medru cydweithio â Chyngor Sir Penfro a’r National Gallery i ddod â’r ‘ Masterpiece Tour’ i’r rhanbarth hwn o Gymru sy’n rhoi cyfle i drigolion Penfro a’r rhai sy’n ymweld â’r ardal  i weld y campwaith Hélène Rouart in her Father’s Study gan Edgar Degas.”

Mae cyfres o ddigwyddiadau a gweithgareddau cyffrous yn cael eu cynllunio i gyd-fynd gyda’r arddangosfa, megis sgwrs arbennig ar y campwaith gan un o guraduron y National Gallery. Am ragor o wybodaeth ein tudalen Facebook: Gwasanaethau Llyfrgelloedd Sir Benfro () neu cysylltwch â Llyfrgell Glan-yr-afon ar 01437 775244.

Mae Glan-yr-afon yn ganolfan ddiwylliannol flaenllaw yng nghalon Hwlffordd, sir Benfro. Fe’i hagorwyd ym mis Rhagfyr 2018, ac mae’n cynnwys llyfrgell fodern, canolfan i ymwelwyr, siop goffi a gofod ar gyfer oriel sy’n arddangos casgliadau o Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae’r cyfleuster gwych hwn yn anarferol ac yn arloesol, ac eisoes wedi bod yn rhan allweddol o’r gwaith o adfywio’r dref a’r ardal ehangach yn Sir Benfro