Manylion y digwyddiad
Mae hwn yn ddigwyddiad AM DDIM, ond mae archebu tocyn yn HANFODOL
Mae Theatr Soffa yn ôl gyda stori fer hyfryd gan y bardd Cymreig Dylan Thomas, y stori berffaith i ysgogi naws Nadoligaidd ynoch!
Nadolig Plentyn yng Nghymru:
Cyfieithiad Bryan Martin Davies o stori enwog Dylan Thomas, sy’n trafod hanes telynegol Nadoligau ei blentyndod mewn tref fach yng Nghymru, gan gynnwys bleiddiaid, eirth, hipos a chath Mrs Prothero. Perfformiad tymhorol perffaith i bobl o bob oed!
Wedi’i ffrydio’n fyw ar sianel YouTube Celfyddydau Span.