Manylion y digwyddiad
Dewch i gwrdd â’r marchogion lletchwith sy’n gyfrifol am y fagnel anferthol (catapwlt mawr iawn!) wrth iddyn nhw dderbyn yr her o ymosod ar y Castell! Dysgwch am arfau gwarchae a rhyfela canoloesol cyn cwrdd â’r ddraig! Mae Rhodri’r Ddraig yn ymweld â’r Castell am y dydd i chwilio am ffrindiau newydd – mae’n bosibl y bydd yn barod i ddawnsio hefyd, os gofynnwch chi’n garedig!
Ewch i carewcastle.com am fanylion llawn ac amserlen o weithgareddau’r dydd.
Wedi ei gynnwys AM DDIM yn y tâl mynediad arferol.