Manylion y digwyddiad

Dewch i gwrdd â’r marchogion sy’n rheoli’r trebuchet anferth (catapwlt anferth!) wrth iddyn nhw wynebu’r her o ymosod ar y Castell! Dysgwch am arfau gwarchae a rhyfela canoloesol cyn cwrdd â draig! Mae Rhodri’r ddraig yn ymweld â’r Castell am ddiwrnod i chwilio am ffrindiau newydd – efallai y bydd yn dawnsio hyd yn oed os ydych chi’n neis iddo!

Gweler carewcastle.com am fanylion llawn ac amserlen o weithgareddau trwy gydol y dydd.

Wedi’i gynnwys AM DDIM gyda mynediad arferol.