Manylion y digwyddiad

Diwrnod Hwyl i’r Teulu Sandy Bear!

Mae Castell Caeriw yn falch o fod yn gweithio gydag Elusen Profedigaeth Plant Sandy Bear am yr ail flwyddyn yn olynol i ddod â diwrnod o hwyl i’r teulu i chi! Ymunwch â ni am lwyth o weithgareddau hwyliog gan gynnwys gweithdai cerddoriaeth a dawns, adrodd straeon, helfa tedi a phicnic tedi. Tynnwch eich llun gyda Sandy Bear ei hun a helpwch i godi arian at yr achos anhygoel hwn.

Mae Sandy Bear yn elusen ddi-elw sy’n ymroddedig i wella a chryfhau iechyd a lles emosiynol pobl ifanc 0-18 oed (a’u teuluoedd), sydd wedi profi marwolaeth anwyliaid. Nod Sandy Bear yw lleihau anawsterau emosiynol yn ystod plentyndod a nifer yr achosion o salwch meddwl yn ddiweddarach mewn bywyd a all arwain at ansawdd bywyd is, cyrhaeddiad addysgol gwaeth, problemau cymdeithasol ac iechyd a mwy o fregusrwydd. Maent yn gweithio’n agos gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd yn ogystal ag addysgu gweithwyr proffesiynol.

Dydd Sul 24 Gorffennaf, 10am – 4pm