Manylion y digwyddiad

Mae’n swyddogol, mae mynd allan i’r awyr agored yn beth da i chi! Ac mae pob taith gerdded yn gyfle i ddarganfod y natur a’r archeoleg sydd ar eich stepen drws. Ond faint ydyn ni’n gwybod mewn gwirionedd am y byd o’n cwmpas, a faint sydd ar ôl i’w ddysgu? Efallai y byddwch chi’n synnu! Daw darganfyddiadau o bob lliw a llun, a gall unrhyw un fod yn ddarganfyddwr. O ysbrydwlithod i ddarnau arian aur, gadewch i’r darganfyddiadau yn yr arddangosfa hon eich ysbrydoli. Yna paratowch i wneud un eich hun.