Manylion y digwyddiad

Darlunydd ac arlunydd tirluniau yw James Fells a gafodd ei fagu yng Ngogledd Sir Benfro ac sydd bellach yn byw yn Abergwaun. Yn ogystal â bod yn artist, mae James hefyd yn adeiladu ac yn trwsio cychod ac felly’n treulio llawer o amser ar ymyl neu o gwmpas y dŵr.

Mae creaduriaid y môr bob amser wedi swyno James oherwydd eu hynodrwydd ac maent yn wrthrychau da iawn i geisio eu portreadu yn bynciau da i’w dal yn ei gelfyddyd. Mae James yn symud yn rhydd rhwng wahanol arddulliau ac mae ei waith yn elwa o allu lluniadu technegol, a enillwyd wrth weithio ym maes dylunio graffeg, ac hefyd arddull celfyddyd gain fwy llac a ddatblygwyd trwy’r angen i weithio yn yr awyr agored er mwyn cipio’r foment fel mae’n digwydd.

Manylion y Tocyn