Manylion y digwyddiad

Wedi’i hysbrydoli gan liwiau cyfnewidiol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, mae Andrea Martineau yn creu darnau gemwaith unigryw gan ddefnyddio gemau hardd a gwifren gopr yn ei chreadigaethau, gan gysylltu â hanes cyfoethog cynhyrchu copr yng Nghymru. Mae’r dull Japaneaidd hynafol o glymu â llaw gan ddefnyddio braid Kumihimo, hefyd yn ddull a ddefnyddir gan Andrea, gan greu breichledau a mwclis unigryw.