Manylion y digwyddiad
Ymunwch â Chyfeillion Tylwyth Teg y Goedwig y Calan Gaeaf hwn ar eu taith i baratoi’r goedwig ar gyfer y gaeaf. Bydd Fairy Blackberry ac Incy Wincy Spider yn cynnal gweithdy rhyngweithiol yn llawn gemau, dawnsio, adrodd straeon, canu a hwyl Calan Gaeaf i bob oed. Ymunwch yn yr hwyl a dewch mewn gwisg ffansi. Yn cynnwys pecyn crefft gwe pryfed cop i bob plentyn!
ARCHEBU YN HANFODOL: https://www.eventbrite.com/e/halloween-hijinks-tickets-225348743157
£5 y plentyn. 3+ oed
Sylwch fod y tâl mynediad ar gyfer Castell Caeriw hefyd yn berthnasol.
Gweithdai am 11am, 1.30pm a 3pm