Manylion y digwyddiad

Mae Tom Sloan, arlunydd cyfoes o Gasnewydd, Gwent bellach yn byw ac yn gweithio yn Dinbych-y-Pysgod, Sir Benfro. Mae angerdd Tom am liw, gwneud marciau mynegiadol a’i gariad at arbrofi gyda’r cyfryngau, yn creu gwaith celf beiddgar, trawiadol, y gellir ei adnabod ar unwaith. Gwelwyd Tom yn ddiweddar ar Sky Arts Landscape Artist of the Year 2020.

Gan dynnu ysbrydoliaeth o bob posibilrwydd sy’n tanio ei ddiddordeb, mae Tom yn gweithio mewn ffordd reddfol iawn a bydd yr arddangosfa hon Rheoli Tir yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Dinbych-y-pysgod yn arddangos ei ystod anrhagweladwy ac unigryw o bynciau, arddulliau a phrosesau celf, gan brofi bod “ysbrydoliaeth ym mhobman” .

Manylion y Tocyn