Manylion y digwyddiad

Mae Oriel y Parc yn falch iawn o ymuno ag un ar ddeg o orielau ar draws y de, y canolbarth a’r gorllewin i ddathlu arlunio cyfoes. Nod rhaglen yr arddangosfa yw dathlu rhai o arlunwyr mwyaf arwyddocaol Cymru, yn ogystal â’r rhai newydd a gwaith o ansawdd uchel gan fyfyrwyr mewn colegau a/neu ysgolion.

I’w gweld yn Oriel y Parc bydd gwaith gan yr artistiaid Kate Freeman, Grahame Hurd-Wood, Mike Jones, Indira Mukherji, Heather Nixon, Cherry Pickles, Barbara Price a myfyrwyr o Goleg Sir Benfro.