Manylion y digwyddiad

Arddangosfa o baentiadau dyfrlliw a phrintiau argraffiad cyfyngedig o’r adar o arfordir a thir Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Mae gan Meg gysylltiad cryf ag arfordir Sir Benfro a’r tirweddau amrywiol o’i chwmpas ac mae llawer o’i hatgofion yn ymwneud ag adar Sir Benfro. Gall adar ennyn hiraeth a’n cysylltu â lleoedd; o’r huganod yn plymio i Fae Sain Ffraid, barcutiaid coch yn esgyn uwchben rhostir neu’r gwylogod a’r llurs yn nythu ar Ynys Dewi; adar yn gyfystyr â’r Parc Cenedlaethol. Mae’r casgliad hwn o baentiadau dyfrlliw yn cyfleu harddwch a manylion cywrain yr adar rhyfeddol hyn na fyddwn mor aml yn dod i’w gweld yn agos.

Manylion y Tocyn