Manylion y digwyddiad

Ymunwch â Ffrindiau Tylwyth Teg y Goedwig ar antur ryngweithiol trwy fyd natur lle mae’r dylwythen deg Cobweb yn chwilio am ei hadain goll gyda chymorth ei ffrind dibynadwy Oops a Daisy. Mae’r perfformiad swynol hwn yn arddangos bale clasurol, dawns werin draddodiadol, dawns fodern, canu a chomedi. Wrth i Stori Tylwyth Teg dreiddio i fyd natur bydd yn gadael i chi feddwl am bwysigrwydd gofalu am yr amgylchedd naturiol a’n cyd-ddyn.

Ar ôl y perfformiad cynhelir gweithdy dawnsio hwyliog i’r teulu oll ei fwynhau. Dewch i greu eich cymeriadau eich hun o’r goedwig a dysgu un o’r dawnsiau o’r sioe. Cynlluniwyd y gweithdy hwn i wneud i chi wenu, chwerthin a mwynhau symudiad i gerddoriaeth hyfryd.

Perfformiad awr a gweithdy £5 y pen (oedolyn neu blentyn), cyrraedd 10 munud cyn y sesiwn. 3+ oed

ARCHEBU YN HANFODOL: https://www.eventbrite.com/e/a-fairies-tale-tickets-224019306777

Sylwch fod y tâl mynediad i Gastell Caeriw hefyd yn berthnasol.

Dydd Mawrth 19 a dydd Mercher 20 Ebrill, 11am, 1.30pm, 3pm