Manylion y digwyddiad

Ymunwch â’n Parcmon ar daith hamddenol i Gaerfai ac ar hyd llwybr yr arfordir i Sain Non. Darganfyddwch y blodau gwyllt a geir yn y cloddiau ac ar hyd yr arfordir a darganfyddwch yr enwau lleol/Cymreig ar blanhigion, yn ogystal â’u defnyddiau hanesyddol. Bydd cyfle hefyd i edrych ar ddulliau adnabod digidol trwy ddefnyddio Seek gan iNaturalist a siarad am y ffyrdd y gallwn ni i gyd gefnogi ecosystemau pwysig.

Cwrdd yn Oriel y Parc
1 ½ awr i 2 awr
Digwyddiad am ddim ond rhaid archebu lle, uchafswm o 15 o bobl. I archebu, cliciwch yma

Manylion y Tocyn