Manylion y digwyddiad

Mae Clive Gould a Graham Brace yn arlunwyr o Sir Benfro sy’n arbenigo mewn darlunio tirweddau a morluniau Sir Benfro yn fanwl iawn, trwy ddefnyddio paent acrylig a phensiliau lliw yn bennaf. Mae’r ddau’n ymdrechu i ddangos Sir Benfro ar ei gorau drwy bwysleisio garwder naturiol a nodweddion topograffig ei harfordiroedd a’i chefn gwlad unigryw.