Manylion y digwyddiad

Yn yr arddangosfa hon gan Ty Hir, mae sgarffiau sidan, bagiau wedi’u ffeltio â llaw a darnau pren addurnol wedi’u troi yn  pwysleisio’r defnydd o ddeunyddiau naturiol, lliwiau bywiog a dehongliad ar y cyd o Arfordir Penfro. Mae symudiad a dyfnder y dirwedd yn cael eu dal gyda gweadau gwahanol fel gwlân, edau sidan a haenau lluosog o staen ar grawn pren amrywiol sy’n creu darnau unigryw.