Manylion y digwyddiad

Daw’r awdur Owen Thomas, y cyfarwyddwr Peter Doran a’r actor Gareth John Bale â Grav yn ôl, y ddrama sy’n archwilio bywyd ac amseroedd un o feibion mwyaf annwyl a mwyaf rhyfeddol Cymru, yr eicon, Ray Gravell.

Mae hanesion bywyd Grav yn haeddu cael eu clywed unwaith eto. Yn chwaraewr rygbi hynod uchel ei barch, ar ôl cynrychioli Cymru a’r Llewod Prydeinig ar draws y byd mae hon yn sioe un dyn wirioneddol ysbrydoledig a thwymgalon, sydd wedi cael canmoliaeth unfrydol.